Creadigrwydd I Hybu Lles

“… Mae Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro …  yn deall bod creadigrwydd yn dyfrhau meithrinfeydd ein seici a’n dychymyg, gan fraenaru’r tir lle gall lles a chynaliadwyaeth gael eu meithrin a bwrw gwreiddiau…” (Nick Capaldi, Prif Weithredydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Mawrth 2015)

Bu Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro yn gweithio ym maes Creadigrwydd i Hybu Iechyd ers 30 mlynedd a mwy.

Y rhaglen hon yw prif thema drosfwaol yr holl waith a wneir gennym. Credwn fod ein holl brojectau creadigol, yn eu gwahanol ffyrdd, o fudd anferthol i les i bobl y byddwn yn gweithio gyda nhw. Efallai y daw’r teimlad hwn o les cynyddol i’r amlwg i gyfranogwyr yn y ‘llif’ creadigol, pan fyddant yng nghanol y broses greadigol ei hun, neu efallai y caiff ei ganfod trwy broses o archwilio problemau penodol yn eu bywydau, rhai anodd yn aml, trwy greadigrwydd.

Credwn fod creadigrwydd yn hawl ddynol sylfaenol a’i fod yn hanfodol i’n lles corfforol, ysbrydol ac emosiynol. Credwn y dylai pawb gael y cyfle i fynegi eu hunain yn greadigol, ac y gallwn, trwy greadigrwydd, greu cyfleoedd ar gyfer datblygiad unigol a chymunedol, gan ysgogi newid personol a chymdeithasol.

Byddwn yn ymgymryd â’n gwaith Celfyddydau Cymuned gyda pharch at eraill, ymrwymiad i bobl, ac empathi, gonestrwydd a’r gallu i ddarparu lle diogel lle gall cyfranogwyr rannu creadigrwydd a mynegiant creadigol. Rydym yn cynnig i gyfranogwyr ymdeimlad o berthyn, diogelwch, pwrpas, parhad, cyflawniad a phwysigrwydd. Mae cael y cyfle i fod yn greadigol, i fyfyrio ac i herio patrymau blaenorol, yn ei gwneud hi’n bosibl i gyfranogwyr ddychmygu ‘hunan posibl’, a chael cyfle i ddatblygu map sy’n dangos sut i gyrraedd yno, gan eu helpu i bennu nodau positif a fydd, o’u cyflawni, yn ategu eu teimlad o reolaeth ar y dyfodol:

 “Adeiladwch rywbeth. Rhannwch rywbeth. Lluniwch rywbeth. Crëwch fwy o gelf. Bydd eich iechyd a’ch hapusrwydd yn gwella, a byddwn oll yn elwa ar hynny …” (James Clear, Healthy Habits: Creativity)

Mae projectau’n seiliedig ar Greadigrwydd Person-Ganolog, a’r sesiynau wedi eu gwreiddio yn anghenion a diddordebau cyfranogwyr, yn archwilio themâu a nodwyd gan y grŵp trwy gyfrwng celfyddydau creadigol a gweithgareddau. Mae llawer o’r rhai y gweithiwn gyda nhw yn ei chael hi’n anodd mynegi eu hunain ar lafar, ac mae’r sesiynau creadigol yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyfryngau ac yn cefnogi pobl i ddelio â gwahanol broblemau sy’n effeithio ar eu bywydau:

 “Mae’r posibilrwydd ynom oll i fod yn greadigol yn ein ffyrdd unigol.O’n blynyddoedd cynharaf rydym yn dysgu trwy chwarae. Ac mae chwarae’n golygu cymryd y camau cyntaf mewn creu ac arbrofi.Mae’n siwrnai a all drawsnewid ein ffordd o ddysgu ac o archwilio’r byd o’n cwmpas. Fe all newid y ffordd y gwelwn ein hunain – hyd yn oed ein breuddwydion am y dyfodol – yn ogystal â’n helpu i ddatblygu’r amrywiaeth eang o sgiliau bywyd mae byw yn yr 21ain yn ei fynnu gennym.” (Nick Capaldi, CCC, 2015)

Pan fydd cyfranogwyr yn barod, mae gallu rhannu eu gwaith creadigol gydag eraill yn gweithredu fel catalydd i ehangu effaith y neges maent am ei rhannu, gan ysbrydoli newid pellach. Gall fod yn fwy byth o ysgogiad i gyfranogwyr i barhau â’u taith, ymateb i bob her newydd yn eu bywydau, mentro gyda chefnogaeth, a derbyn ymateb cadarnhaol gan y bobl sy’n rhannu hyn gyda ni (yn deulu, ffrindiau, cyllidwyr, budd-ddeiliaid, cymunedau) – sydd, yn ei dro, yn ysgogi mwy o ddialog a newidiadau personol a chymdeithasol.

Un o amcanion allweddol – ac un o lwyddiannau profedig ein gwaith – yw gallu ein gweithdai creadigol i ysbrydoli ac ysgogi ein cyfranogwyr. Mae hyn o bwys aruthrol, gan fod llawer o’r bobl sy’n dod i’n projectau a’n sesiynau hyfforddi yn dioddef o ddiffyg hunan-barch a diffyg hyder; gall cael eu hysgogi trwy’r broses greadigol eu hysbrydoli a newid eu bywydau. Gall y teimlad newydd yma o’r posibilrwydd o fagu hunaniaeth a hunan-ddelwedd bositif helpu cyfranogwyr i symud tuag at ddewisiadau mwy rhagweithiol yn eu bywyd, a allai gynnwys ailgysylltu ag addysg, addysg bellach, cyflogaeth, datblygu mwy o rwydweithiau cymdeithasol, derbyn her newydd, parhau i fod yn greadigol, a datblygu ffyrdd mwy creadigol a llai cyfyngedig o feddwl.

UCHAFBWYNTIAU’R FLWYDDYN:

Gweithdai Creadigrwydd Person-Ganolog

Parhaodd y rhaglen hon i fynd o nerth i nerth, gydag amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi wedi eu darparu ar hyd y flwyddyn dan adain Rhaglen Ddatblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, a chan weithio gyda rheolwyr a staff gofal gwasanaethau dydd, preswyl a chartref. Buom yn gweithio hefyd gydag oedolion â phroblemau iechyd meddwl ac amrywiaeth eang o grwpiau. Roedd sylwadau yn adborth gwerthuso’r cwrs yn cynnwys:

‘Cwrs cwbl eithriadol, dysgais lawer amdana’i fy hun a sut i symud ymlaen â hyder.’

‘Mwynheais y cwrs, chwa o awyr iawch, ac yn edrych ymlaen at ei addasu i’w gynnwys yn fy arfer gwaith.’

‘Y cwrs hyfforddi gorau i mi ei fynychu ers amser maith – ysbrydoliaeth wirioneddol.’

‘Gwych, ystyrlon, heb ei strwythuro, hwyl, hwyl, hwyl.’

‘Mwynheais y tridiau, fe wnes i bethau na faswn erioed wedi dychmygu eu gwneud.’

‘Y cwrs hyfforddi gorau i mi fod arno erioed.’

‘Rwy’n frwdfrydig iawn ynglyn â mynd â llawer o hyn i’w ddefnyddio yn y man gwaith.’

‘Da iawn ar gyfer adeiladu tîm.’

Gallwn addasu ein cyrsiau hyfforddi Creadigrwydd Person-Ganolog i ateb gofynion amrywiaeth eang o ddefnyddwyr, o dimau staff gofal cymdeithasol, artistiaid cymunedol, gweithwyr iechyd (yn cynnwys iechyd meddwl), gweithwyr gwirfoddol a sector cyhoeddus, a grwpiau cymysg. Mae’r adborth hwn yn tystio i’r ffaith bod yr hyfforddiant hwn, a ddatblygwyd gennym dros flynyddoedd lawer, yn cynnig profiad dysgu positif i gyfranogwyr yn ogystal â chyfarpar ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Mae’r meysydd a fu o ddefnydd, yn ôl cyfranogwyr, yn cynnwys: deall y berthynas rhwng creadigrwydd a lles; gweithio’n arloesol; gwaith grŵp yn seiliedig ar brofiad; creu amgylcheddau diogel; a dylunio, gweithredu a gwerthuso rhaglenni creadigol.

'Lan Amdani'

Comisiynwyd ‘Up for It’ – drama newydd ar gyfer pobl ifanc – gan Ysgolion Iach Pen-y-bont, i’w gyflwyno yn ystod Dydd Hyfforddi Camddefnydd Sylweddau ar gyfer pobl ifanc ym Mhen-y-bont yn yr Hi-Tide ym mis Mawrth 2014.

Cafodd y darn ei sgrifennu ar y cyd gan ein tîm drama ifanc, Brandon Ashford a Doug Gray, gyda’n partner Tamasine Preece, Pennaeth ABCh yn Ysgol Bryntirion, Pen-y-bont. Cafodd ei gyfarwyddo gan ein Hymarferydd Drama, Ali Franks, a’i berfformio gan  Brandon Ashford and Doug Gray. Mae ‘Up for It’ yn dangos effaith camddefnyddio sylweddau ar gyfeillgarwch, gobeithion ac iechyd corfforol a meddyliol y ddau ffrind gorau, Jimmy a Dan.

Project Henaint Heini

“Gan ddefnyddio cerddoriaeth o’u dewis nhw, tipyn bach o hwyluso gen i, dawnsio yn yr hen ddull a’u dawnsiau nhw … cawn weld lle’r â’r daith hyfryd hon â nhw. Mae’r ledis yn cael y fath hwyl, a fedra’i mo’u dal nhw nôl!…” (Elaine Bennett, Gweithreg Datblygu Dawns)

Fel rhan o’n rhaglen o weithio’n greadigol gyda phobl hŷn, roeddem yn falch i allu parhau â’r gwaith hwn ym Mhen-y-bont. Datblygwyd y project hwn yn wreiddiol ar y cyd ag Anna Evans, Rheolydd Cefnogi Cynllunio a Phartneriaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Cawsom ein cefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, Cyngor Celfyddydau Cymru, a chyfraniadau gan y preswylwyr eu hunain a oedd mor eiddgar i gadw’r project i fynd.

Nod y rhaglen hon o weithgareddau creadigol yw hyrwyddo lles emosiynol a chorfforol. Eleni, buom yn gweithio gyda Cymoedd i’r Arfordir(V2C), ein Cymdeithas Tai ddim-am-elw leol, gan gynnig i’w preswylwyr yn Llys Cynffig yn y Pîl a Llys Ton ym Mynydd Cynffig y cyfle i fwynhau bod yn greadigol trwy gyfrwng celf a chrefft. Buom hefyd yn gweithio gyda chartrefi preswyl a chanolfannau eraill yn y cylch, yn cynnwys Llety Ymddeol Tŷ Glanogwr lle’r oedd dawns a symud yn boblogaidd dros ben.

Bwriadwn adeiladu ar sail y gwaith yma yn y dyfodol, gyda mwy o gyfleoedd i bobl â dementia ac anhwylderau eraill. Rhedir y gweithdai gan hwyluswyr profiadol, a’r nod yw helpu cyfranogwyr i fynegi eu hunain yn greadigol a magu hyder, dysgu sgiliau newydd, gweithio fel rhan o dîm a chael hwyl. Mae’r broses greadigol a gynigir gennym yn brofiad therapiwtig, positif, iachaol. Nid Therapi Celf mohono; y nod yw helpu pobl i feddwl am eu bywydau ac archwilio’r posibiliadau o ran cymryd camau tuag at newid positif a all eu helpu yn eu dyfodol.

Clywch Ein Llais

Clywch Ein Llais

Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru ers rhai blynyddoedd, gan gynnig amgylchedd diogel a ffyrdd creadigol o gefnogi pobl ifanc i ddelio â’u trawma, a magu hyder a hunan-barch. Mae Gwasanaeth Seraf yn gynnig cefnogaeth i’r rheini sydd mewn perygl o ddioddef, neu sydd yn dioddef ecsploetiaeth rywiol. Yn y gweithdai caiff pobl ifanc gyfle i archwilio amryw ffurfiau celf: mae rhannu eu gwaith creadigol a’u straeon yn esgor ar fwy o ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a dialog o gwmpas y problemau a godir.

Ar ddydd Iau 6ed Tachwedd 2014, yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, buom yn cefnogi Gwasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru ar achlysur lawnsio project ‘Clywch ein Llais’ a agorwyd yn swyddogol gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething AC.

Cawsom adborth gwych ynglŷn â’r arddangosfa hon, a oedd yn mynegi profiadau pobl ifanc o dyfu i fyny, cael perthynas, perygl ecsbloetiaeth rywiol, a sut y llwyddon nhw i archwilio, prosesu a goresgyn digwyddiadau trawmatig trwy’r celfyddydydau therapiwtig. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cerddoriaeth, dawns a drama wedi eu cynhyrchu gan bobl ifanc, gydag arddangosfa o waith celf a ffilmiau byrion:

“Mae’r celfyddydau’n cynnig cyfle ffantastig i blant a phobl ifanc gael ei dweud hi fel y mae …Mae’n cynnig cyfle i bob un ohonom ystyried sut y gallwn gefnogi plant a phobl ifanc i fod â pherthynas bositif. Delio gyda phethau pan na fydd pethau wedi mynd fel y dylent fod wedi mynd neu pan fydd pethau drwg yn digwydd … mae’r celfyddydau’n berthnasol i bob agwedd o weithgareddau Llywodraeth Cymru a bywydau pobl Cymru, a phobl ifanc Cymru. Dwi’n credu fod yr hyn a ddysgwyd gennym heddiw yn agwedd arall ar y berthnasedd honno. Y ffordd mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro a Llenyddiaeth Cymru wedi gweithio gyda Barnardo’s i ganiatáu i bobl ifanc fynegi eu hunain a chyfleu eu profiadau o gylch ecsbloethiaeth rywiol…” (Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru)

#noblurredlines Project Theatr Gyfranogol

Mae’n waith mor bwysig, rŷn ni’n defnyddio creadigrwydd fel ffordd o helpu pobl ifanc i ddelio â materion anodd mewn amgylchedd diogel a chefnogol…” (Alex Bowen, Cyfarwyddydd, Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro)

Fel rhan o’n rhaglen Drama ar gyfer Iechyd Emosiynol, cyffrous oedd gallu cyhoeddi project theatr gyfranogol sy’n torri tir newydd, a gyllidir gan Sefydliad Esmée Fairbairn ac a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont – #noblurredlines.

Mae #noblurredlines, a anelir at rai 16-24 oed, yn berfformiad theatr pwerus sy’n ymdrin â chydsyniad a  chydymffurfiad rhywiol. Mae’n hymchwil â’n gwaith parhaus gyda phobl ifanc leol yn datgelu o hyd gefndir o ddryswch, teimladau o hawl, a chydymffurfio i berthnasau rhywiol.

A derbyn bod hwn yn faes peryglus i fynd i’r afael ag ef, lluniwyd y project hwn yn fwriadol i greu dialog diogel rhwng ein pobl ifanc ac arbenigwyr proffesiynol a all helpu.

Roedd pynciau allweddol a drafodwyd ar ôl perfformiadau yn cynnwys: diogelwch; alcohol a cyffuriau adloniadol; sbeicio diod; cwyno am ymosodiad rhywiol; y gyfraith; diffiniadau cyfreithiol; rôl alcohol; ‘chwarae teg’ a pharch; rhoi a derbyn cydsyniad rhywiol; ecsbloetiaeth – cyfathrach rywiol lle ceir anghydbwysedd pŵer/emosiwn.

Mae’r project hwn yn ymdrin â nifer o faterion allweddol y credwn bod angen eu trafod gyda phobl ifanc. Mae nifer o’n partner-brojectau wedi mynegi’r angen am y math hwn o broject sy’n mynd i’r afael yn greadigol â materion anodd gyda phobl ifanc, i helpu i hyrwyddo dialog, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth mewn amgylchedd diogel a chreadigol:

“…atal, addysgu, ac ennyn dialog mae mawr angen amdano o gylch materion sy’n codi” (Ali Franks, Ymarferydd Theatr Gymwysedig, Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro)

Dechreuodd y daith gyda’r digwyddiad ‘Meddwl Am Ryw’ yn yr Hi-Tide, Porthcawl y 19 a’r 20 o Fawrth 2015, ac yna aeth #noblurredlines ymlaen i deithio pob 6ed Dosbarth ym Mhen-y-bont cyn y Pasg.

Dyfeisiwyd a datblygwyd y project hwn gan Ali Franks (Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro) a Dr Tamasine Preece, (Pennaeth ABCh Ysgol Gyfun Bryntirion ac Ymgynghorydd Cyfryngau Cymdeithasol ac Iechyd Rhywiol llawrydd). Cymeradwywyd #noblurredlines gan Keith Towler (Comisiynydd Plant Cymru ) a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Heddlu Pen-y-bont, ac fe’i cyllidwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cymunedau yn Gyntaf, a Sefydliad Esmée Fairbairn.

#noblurredlines Project Theatr Gyfranogol

Project Drama Clinig Caswell

Ers blynyddoedd, buom yn rhedeg sesiynau drama ar gyfer cleifion yng Nghlinig Caswell, uned lled-ddiogel yn Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gyllidir o amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys cyllid datblygu dechreuol gan Sefydliad Lankelly Chase, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn awr, trwy gomisiynau gan y Clinig ei hun. Mae’r cyfleuster yn cynnig gofal iechyd arbenigol ar gyfer cleifion â phroblemau iechyd meddwl sydd yn droseddwyr neu a allai droseddu. Hwylusir y rhaglen bresennol gan ein Gweithreg Drama, Karen Steadman.

Mae gan y cyfranogwyr yn ein gweithdai amrywiaeth eang o anhwylderau a phroblemau ac maent mewn gwahanol gyfnodau yn eu proses adsefydlu. Mae rhai newydd eu derbyn i’r clinig ac am fod yno am beth amser tra bod eraill yn barod i symud ymlaen i uned is-ddiogel neu lety dan oruchwyliaeth. Oherwydd yr amrywiaeth o ran galluoedd a phroblemau yn y stafell, rhaid i weithdai fod yn hyblyg a than arweiniad cleifion i raddau. Y nod yw caniatáu amser i’r cleifion oddi ar y ward, a all fod yn amgylchedd anodd ar adegau. Mae gweithio fel rhan o grŵp yn hanfodol i’r broses adsefydlu gan fod hynny’n datblygu goddefgarwch a dealltwriaeth o anghenion pobl eraill. Ni cheisir gweithio tuag at nodau, perfformiadau neu sgiliau penodol. Y brif nod yw creu amgylchedd diogel, cefnogol lle gall pobl gael hwyl, magu hyder ac abrofi â sgiliau cymdeithasol.

'Ble mae’r Bechgyn?' Project ERP

Menter ar y cyd oedd project ‘Ble Mae’r Bechgyn’ rhwng Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro a Gwasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru, project sy’n gweithio gyda phobl ifanc ddiymgeledd sydd mewn perygl neu sydd eisoes wedi cael eu tynnu i mewn i Ecsbloetiaeth Rywiol Plant (ERP). Gwnaeth ein project ‘Ble Mae’r Bechgyn’ ni’n ymwybodol o’r ffaith bod camdriniaeth rywiol yn dal yn bwnc tabŵ ymhlith bechgyn. Nod y project oedd darganfod a gweithio gyda bechgyn ifanc diymgeledd a oedd yn wynebu peryglon o’r fath mewn ffordd a fyddai’n eu galluogi i siarad am eu profiadau a rhybuddio am beryglon ecsbloetiaeth rywiol. Cyfunwyd hyn ag ethos a gwerthoedd Creadigrwydd Person-Ganolog, sy’n seiliedig ar gred mewn creadigrwydd fel arf pwerus o blaid newid unigol a chymdeithasol.

Roeddem yn ceisio darganfod ffyrdd o gyrraedd mwy o fechgyn, cynyddu ymwybyddiaeth a’u cael i gyfranogi mewn dialog creadigol a therwpiwtig. Trwy ddefnyddio celf, cerddi, cerddoriaeth, caneuon a ffilmiau, cafodd y bechgyn eu hysgogi i siarad am wahanol berthnasau, iach ac afiach, disgwyliadau ar fechgyn mewn perthynas, pwysau gan gyfoedion, a pheryglon ecsbloetiaeth rywiol plant. Cafodd peth o’u gwaith celf ei arddangos am fis yn Adeilad Pen Pier Bae Caerdydd, ym mis Chwefror 2015.

Ar y cyd â Gwasanaeth Seraf Barnardo’s, yn ystod camau cynnar y gwaith, defnyddiwyd creadigrwydd i gynyddu ymwybyddiaeth o ecsbloetiaeth rywiol mewn cynhadledd Iechyd a Llesiant yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd, Gweithiwyd gyda mwy na chant o fechgyn yn ystod y dydd.

Mae ecsbloetiaeth rywiol yn bwnc anodd iawn i’w godi, yn enwedig gyda bechgyn yn eu harddegau; roeddem hefyd yn ymwybodol y gallai fod wedi effeithio ar rai o’r bobl ifanc yn y sesiynau ac felly gwnaethom yn siwr fod gennym ddigon o staff yn bresennol i siarad ag unigolion. Roedd y sesiynau hefyd yn cyfeirio’r ffordd at fudiadau a phobl a all helpu.

'Ble mae’r Bechgyn?' Project ERP

‘Adeiladu Pontydd, Yma i Wrando’

Roeddem yn rhan o’r digwyddiad partneriaeth hwn gyda Barnardo’s Cymru a noddwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, Vaughan Gething, AC. Cynhaliwyd y digwyddiad ar y 3ydd o Chwefror 2015 yn Adeilad Pen Pier Caerdydd, ac roedd yn cynnwys cerddoriaeth, dawns a drama gan bobl ifanc a oedd yn rhannu eu profiadau o dyfu i fyny, cael perthynas, a pheryglon ecsbloetiaeth rywiol. Mae hyn yn rhan o raglen o waith gyda Gwasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru mewn cysylltiad â Chynllun Creadigol Cyngor Caerdydd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Heddlu De Cymru, a Bawso.

Fel rhan o’n project ‘Adeiladu Pontydd’ a gyllidir gan Gyngor Caerdydd, ein bwriad wedyn oedd mynd â’r ddrama ‘What’s Happening Frankie?’ i ysgolion ledled y gymuned i gynyddu ymwybyddiaeth o ecsbloetiaeth rywiol, gwrando ar bobl ifanc, a gwella’r ddialog rhyngddynt a phobl sy’n gweithio mewn addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, a chyfiawnder troseddol.

'Adeiladu Pontydd, Yma i Wrando'

SearchCelfyddydau Cymuned Cwm a Bro Adroddiad Blynyddol
Share:
Profiles: